Amdanom Ni
prosperIS Recruitment Cyf yw asiantaeth recriwtio mwyaf newydd a chyffrous Cymru, sy’n ymroi i ddarparu ystod llawn o wasanaethau staffio i gwsmeriaid ac ymgeiswyr ledled y Deyrnas Unedig a drwy gydol Ewrop. Wedi ei sefydlu yn 2007, prif ffocws prosperIS yw marchnadoedd Technoleg Gwybodaeth a Gwerthiant Cymru a Gogledd Iwerddon, er bod modd i ni hefyd ddarparu ymgeiswyr o safon ledled gweddill y Deyrnas Unedig a thir mawr Ewrop.
O fewn y gwasanaeth effeithlon a phroffesiynol a gynigiwn, bydd prosperIS yn cymryd amser i ddeall holl agweddau cyfleoedd megis amgylchedd a diwylliant gwaith, a golygon datblygiad gyrfa i bob swydd, gan ddeall fod ffactorau o’r fath cyn bwysiced â’r swydd ei hun i nifer o’n hymgeiswyr.
Gweithiwn i ddarparu gwasanaeth recriwtio o’r radd flaenaf yn ddi-ffwdan, gan anelu i gyflwyno’r ymgeiswyr gorau i’n cwsmeriaid. Os ydych yn reolwr cyflogi sydd wedi cael llond bol ar gael eich peledu ag ymgeiswyr anaddas, mae prosperIS yn addo dewis 2-3 o’n hymgeiswyr gorau yn unig ar gyfer pob swydd.
Yn ogystal, deallwn natur allweddol cyflymder a chywirdeb yn y broses recriwtio - a bydd ein hymroddiad i gael y cydbwysedd hwnnw’n gywir yn ein harwain at ddatrusiad staffio llwyddiannus.
Prif fanteision ein gwasaneth yw:
 |
Cynigir gwasanaeth recriwtio dwyieithog yn y Saesneg a’r Gymraeg. |
 |
Gwybodaeth o’r farchnad - mae gan ein tîm rheoli brofiad eang o recriwtio masnachol a enillwyd ledled y Deyrnas Unedig a thir mawr Ewrop yn y sectorau parhaol a chytundeb fel ei gilydd. Mae gennym hanes llwyddiannus o gyflenwi staff i sefydliadau masnachol a sector gyhoeddus. |
 |
Mae prosperIS yn cynnig datrusiadau staffio parhaol a chytundeb hyblyg. |
 |
Strwythur ffi gystadleuol - mae ein ffioedd yn llai na ffioedd asiantaethau recriwtio traddodiadol. |
 |
Caiff ymgeiswyr eu sgrinio’n llawn ar gyfer addasrwydd ym mhob agwedd o’r swydd - sgiliau, gwybodaeth, ysgogiad, argaeledd, gofynion teithio, cyflog/buddion y dymunir. |
 |
Caiff geirda pob ymgeisydd a leolir gyda chwsmer ei wirio, a bydd pob ymgeisydd yn rhan o’n rhaglen gefnogi ac asesu wedi i leoliad gael ei ganfod. |
 |
Cronfa ddata sy’n tyfu’n gynyddol, a gaiff ei hasesu a’i diweddaru’n gyson at ddibenion ansawdd. |
Yn prosperIS, deallwn gyfrinach llwyddiant - cysylltwch â ni i ganfod y gwasanaeth o safon sydd gennym i’w gynnig. |