|
Ymgeiswyr
Sut ydw i’n cofrestru fel ymgeisydd gyda prosperIS?
Gallwch greu eich cyfrif eich hun drwy ddefnyddio’r ddolen ‘Cofrestru Ymgeisydd’ o’r golofn ar y llaw chwith, neu glicio yma i gofrestru nawr. Gallwch hefyd gofrestru a golygu eich CV drwy ddefnyddio’r ddolen ‘Postio/Golygu CV’.
Beth fydd yn digwydd gyda’m CV unwaith y byddaf wedi cofrestru gyda prosperIS?
Unwaith i chi gofrestru, caiff eich CV ei gadw ar ein cronfa ddata a’i ystyried ar gyfer swyddi gyda’n cwsmeriaid wrth iddynt godi. Ni chaiff eich CV ei newid na’i gyflwyno i’n cwsmeriaid oni bai i chi fel ymgeisydd roi caniatád i ni wneud hynny o flaen llaw. Caiff eich CV ei drin â’r preifatrwydd pennaf ac ni chaiff unrhyw fanylion eu rhannu â thrydydd person oni bai eich bod chi yr ymgeisydd wedi cytuno i hynny (gweler hefyd ein ‘Polisi Preifatrwydd’).
Pa ymrwymiadau sydd gennyf i prosperIS unwaith i mi gofrestru fy CV?
Ni fydd gennych unrhyw ymrwymiadau i prosperIS unwaith y byddwch wedi cofrestru fel ymgeisydd. Byddwch yn rhydd i ddilyn trywydd arall i ganfod eich cyfle/swydd nesaf.
Oes unrhyw reolau ynglŷn â diwyg a chynnwys fy CV?
Does dim rheolau pendant ynglŷn â diwyg a chynnwys eich CV ond carwn gynnig y cyngor cyffredinol canlynol:
 |
Ceisiwch gadw’ch CV yn gryno a pherthnasol - amlinellwch y prif sgiliau a chyfrifoldebau. Hyn yn oed os oes gennych flynyddoedd lawer o brofiad, caiff CVs hirach na hyn eu diystyru’n aml gan ein cwsmeriaid. |
 |
Er bod nifer o adrannau yn gyfnewidiadwy, fe’ch cynghorwn i ddilyn y drefn ganlynol o ran cynnwys: ENW/MANYLION PERSONOL; CRYNODEB/AMCANION GYRFA; SGILIAU ADDYSGIADOL; HANES CYFLOGAETH; CRYNODEB/AMLINELLIAD O SGILIAU; ARALL/IEITHOEDD/DIDDORDEBAU |
 |
Cadwch y diwyg yn syml - yn aml mae lliwiau gwahanol, lluniau a thablau yn ddiangen ac yn gwneud i’r CV ymddangos yn rhy gymhleth neu anniben. |
 |
Cadwch yr un ffont drwy’r CV. |
 |
O dan Hanes Gyrfa, rhowch enw’r cwmni, teitl swydd ac amlinelliad bras o’r tasgau a’r cyfrifoldebau. |
 |
Esboniwch sut i chi ddatblygu neu ddylanwadu’n bersonol ayb, yn hytrach na sut y buoch yn rhan o dîm a ddatblygodd neu a gafodd ddylanwad. |
Beth yw cost gweithio gyda prosperIS i ganfod swydd newydd?
Nid yw’n costio dim i chi fel ymgeisydd i ddefnyddio gwasanaethau prosperIS. Byddwn yn gweithredu ar eich rhan er mwyn canfod swyddi addas a heriol i gydfynd â’ch gofynion personol. Nid yw’n costio i gofrestru nac ychwaith os bydd prosperIS yn sicrhau lleoliad addas i chi gydag un o’n cwsmeriaid.
Beth allaf ddisgwyl gan prosperIS os byddaf yn sicrhau swydd gydag un o’u cwsmeriaid?
Yn gyntaf, gallwch ddisgwyl ymdriniaeth broffesiynol ac effeithlon. Mae llawer gormod o asiantaethau yn esgeuluso’u hymgeiswyr o safbwynt cyfathrebu ac adborth, ond fyddwn ni ddim yn gwneud. Mae prosperIS yn gwbl ymroddedig i gefnogi ein hymgeiswyr drwy gydol y broses recriwtio. Byddwn yn darparu manylion llawn ynglŷn â’r swydd, y sefydliad, amgylchedd gwaith a chyfleoedd gyrfa. Byddwn yn gofyn am eich caniatâd cyn cyflwyno’ch CV i unrhyw gwsmer. Byddwn yn darparu pecyn cyfweliad cyn cyfweliad er mwyn sicrhau eich bod wedi’ch cyfarwyddo ac wedi paratoi yn llawn. Byddwn yn gweithio gyda chi gydol y broses gynnig (a gwrthgynnig), ac, i gloi, byddwn yn eich cefnogi a’ch asesu unwaith y byddwch yn gweithio gyda’n cwsmeriaid er mwyn sicrhau bod y cwsmer a chithau fel ymgeisydd yn fodlon.
Rwyf wedi anghofio fy nghyfrinair. Beth ddylwn wneud nawr?
Gallwch adfer eich cyfrinair o’n system ar unrhyw adeg, gan ddefnyddio’r ddolen ‘Anghofio Cyfrinair’ o’r Ddewislen. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw darparu’r cyfeiriad e-bost cywir a ddefnyddiwyd gennych adeg cofrestru. Cliciwch yma i gael eich hatgoffa o’ch cyfrinair.
Rwyf wedi anghofio fy allweddrif cychwyn ac nid yw’r system yn caniatáu i mi gael mynediad. Beth ddylwn i wneud nawr?
Gallwch adfer eich allweddrif cychwyn o’n system ar unrhyw adeg. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw darparu’r cyfeiriad e-bost cywir a ddefnyddiwyd gennych adeg cofrestru. Cliciwch yma i ailddanfon eich allweddrif cychwyn ar e-bost here.
Beth yw Hysbysiadau Swyddi?
Tra bod pob croeso i chi fwrw golwg dros y cyfleoedd sydd ar gael drwy prosperIS pan fo’n gyfleus i chi, trwy gofrestru i’r gwasanaeth ‘Hysbysiadau Swyddi' gallwn gysylltu â chi pan fydd swyddi newydd yn codi sy’n gweddu’n agos i’ch criteria fel yr amlinellwyd yn eich proffil Cofrestru Ymgeisydd. (Nid oes tâl am y gwasanaeth hwn a gallwch ganslo’ch tanysgrifiad os nad ydych yn chwilio mwyach).
Beth yw manteision y gweithrediad Hysbysiadau Swyddi?
Trwy fod y cyntaf i glywed am swyddi sydd ar gael drwy prosperIS sy’n gweddu i’ch criteria, gallwch achub mantais o fewn marchnad gystadleuol. Golyga hyn mai chi fydd y cyntaf i gael eich hysbysu gan prosperIS er mwyn trafod cyfleoedd newydd sy’n codi gyda’n cwsmeriaid.
Hoffwn newid manylion fy nghrynodeb. Ydy hyn yn bosibl?
Gallwch newid manylion eich crynodeb drwy ddefnyddio’r ddolen ‘Postio/Golygu CV’ o’r Ddewislen Gyfeirio. Ar ôl i chi wneud y newidiadau angenrheidiol gallwch glicio ar y Botwm Safio i’w gyhoeddi. Cliciwch yma i ddiwygio’ch crynodeb ar-lein.
Cyflogwyr
Sut ydw i’n cofrestru fel ‘Cyflogwr’ neu ‘Gwsmer’ gyda prosperIS?
Gallwch greu eich cyfrif eich hun drwy ddefnyddio’r ddolen ‘Cofrestru Cyflogwr’ o’r golofn ar y llaw chwith, neu glicio yma i gofrestru nawr. Dyma’r cam cyntaf tuag at gydweithio gyda prosperIS Recruitment a chofrestru eich swyddi a’ch cyfleoedd gyda ni.
Oes ffi gofrestru ynghlwm wrth gofrestru gyda prosperIS?
Na. Trwy gofrestru fel Cyflogwr neu Gwsmer ar y wefan hon, nid oes gorfodaeth arnoch i dderbyn ymgeiswyr drwy prosperIS. Yn ei hanfod mae cofrestru gyda prosperIS yn rhad ac am ddim, a chodir ffioedd ond os llwyddwn i ddod o hyd i ymgeiswyr addas ar gyfer eich swyddi, a bod y person hwnnw yn cychwyn gweithio i’ch sefydliad. Yn y bôn, gweithredwn wasanaeth ‘dim ennill, dim ffi’.
Pa ffactorau allai effeithio ar y ffioedd a’r gwasanaethau a gynigir?
Mae amryw o ffactorau a allai effeithio ar y ffioedd a’r gwasanaethau a gynigir, a dyma amlinelliad o rai ohonynt:
 |
Gweithio ar sail detholusrwydd - os cytunwch i gyfnod o ddetholusrwydd cyn rhyddhau swyddi i asiantaethau eraill (5-10 niwrnod fel arfer), gallwn gynnig gostyngiadau yng nghostau a ffioedd ein gwasanaeth. |
 |
busnes sylweddol - yn syml, os yw cwsmer yn chwilio’n gyson am staff ychwanegol, gall prosperIS gynnig costau a ffioedd gostyngol pe gwyddwn fod gennym fynediad i’r swyddi hyn.
(golyga’r ddwy sefyllfa uchod bod modd i ni gynllunio a threfnu adnoddau yn well drwy ddeall y cyfle perthynol am ganlyniad llwyddiannus). |
 |
lefel y swydd/hynafedd - gwelwn ein bod yn canfod ymgeiswyr addas yn haws ar gyfer rhai swyddi penodol. Os teimlwn y bydd y chwiliad am ymgeiswyr addas yn haws, gall prosperIS gynnig ffioedd is. |
Faint mae’n gostio i gydweithio â prosperIS i ddarganfod ymgeiswyr addas ar gyfer swyddi?
Mae cost ein gwasanaeth yn hynod gystadleuol o’i gymharu â’n cystadleuwyr yn y farchnad. Amlinellir telerau ac amodau cyffredinol ein gwasanaeth yn adran ‘Telerau’ y wefan hon. Gellir trafod yr union ffioedd yn ddibynnol ar y swyddi sydd ar gael o fewn eich sefydliad a pha mor brin, neu fel arall, y mae ymgeiswyr a’r sgiliau gofynnol o fewn y farchnad. Mae croeso i chi gysylltu â ni er mwyn trafod telerau busnes addas.
Os ydw i’n cofrestru swydd gyda prosperIS, pa mor gyflym fedra i ddisgwyl derbyn proffiliau/CVs addas?
Byddem yn disgwyl cyflwyno ymgeiswyr addas o fewn 2-3 diwrnod gwaith i dderbyn manylion y swydd. Yn amlwg, os yw’r swydd yn fwy arbenigol ei hanfod yna gallai hyn brofi yn amhosibl, ond dyma lefel y gwasanaeth y disgwyliwn fel arfer.
Os byddaf yn cofrestru manylion swydd gyda prosperIS, faint o CVs ddyliwn i ddisgwyl eu derbyn?
Mae prosperIS yn credu’n gryf y dylai asiantaethau ddeall gofynion sefydliad, ac nid anfon CVs sy’n ymddangos yn addas atynt yn unig. Ar ôl siarad ag ymgeiswyr er mwyn canfod ac asesu pa mor addas ydynt i’r sgiliau gofynnol, byddwn yn dewis 2-3 CV yn unig i’w cyflwyno i’n cwsmeriaid. Yr unig eithriad fyddai pe bai cwsmer yn gofyn yn benodol am gael gweld mwy o CVs er mwyn eu cymharu.
Beth yw prif fanteision cydweithio â prosperIS a chofrestru fel cwsmer ar ein gwefan?
Prif fanteision ein gwasanaeth a chofrestru ar ein gwefan yw:
 |
CVs o safon uchel - dim ond 2-3 CV gaiff eu cyflwyno i bob swydd, o fewn 2-3 diwrnod i ryddhau manylion y swydd. |
 |
Cyn lleied o ffwdan â phosibl - yn dilyn galwad gychwynnol i drafod y manylion, byddwn yn ffonio eto am adborth, ond ni fyddwn yn ffonio’n gyson am ddiweddariad. |
 |
Costau a ffioedd isel am ein gwasanaeth sy’n cymharu’n dda â’n cystadleuwyr. |
 |
Anfonebu ar-lein - unwaith i chi gofrestru ar ein system, bydd eich cyfrif yn amlygu unrhyw leoliadau llwyddiannus a wnaed yn eich sefydliad gan prosperIS, a bydd modd i chi gadw golwg ar eich anfoneb gydol y broses. |
 |
Os hysbysebir eich swyddi drwy ein gwefan, bydd modd i chi weld ystadegau ynglŷn â’r nifer o ymgeiswyr a fu’n ymweld â manylion y swydd gyda’ch cwmni. |
|