hafan | amdanom ni | cysylltu â ni | faqs | telerau | preifatrwydd | map o'r wefan
 Cymraeg Saesneg
 
 
Gwasanaethau a Manteision
Cofrestru
Fy Nghyfrif
Ymholiadau
 
Gwasanaethau a Manteision
Cofrestru
Fy Nghyfrif
Chwilio Manwl
Neges am Swyddi
Anfon/Golygu fy CV
Ymholiadau
FAQs
   

Gwasanaethau a Manteision i’r Cwsmer

Pan yn gweithio gydag unrhyw gwsmer, byddwn yn casglu cymaint o wybodaeth â phosibl ynglŷn â’r swydd a’i gofynion cyn cychwyn chwilio. Gorau po fwyaf o wybodaeth y gallwn gasglu bryd hynny, er mwyn arbed amser yn ddiweddarach yn y broses. Mae’n hanfodol felly ein bod yn ennyn dealltwriaeth lawn o’r sgiliau a’r wybodaeth ofynnol, eich cwmni a’ch prosiectau, cynlluniau i’r dyfodol, cyfleoedd dyrchafiad, amgylchedd gwaith, strwythur cwmni/tîm, pa mor fuan y dymunwch lenwi’r swydd a’r cyflog a gynigir. Ar gyfer swyddi parhaol, mae’n bwysig medru gwerthu’r cwmni yn ogystal â’r swydd i ddarpar ymgeiswyr, a byddwn yn ceisio deall eich cwmni gorau gallwn.

Trwy gofrestru gyda prosperIS ar-lein, gallwch ddiwygio, adolygu neu ddileu swyddi gwag pan fynnwch, yn ogystal â chael mynediad di-oed i ystadegau ynglŷn â’r nifer o ymgeiswyr a ddangosodd ddiddordeb yn eich swydd. Unwaith i chi gofrestru, bydd gennych fynediad parhaus i gyfrif ar-lein o swyddi gwag.

Gallwch hefyd gael trosolwg o hanes anfonebu a dyddiadau taliadau eich cwmni drwy eich cyfrif - gellir gwneud y cyfan ar-lein.

Os ydych yn dymuno gweithio gyda prosperIS a’r gwasanaeth unigryw sydd gennym i’w gynnig, cymrwch y cam cyntaf drwy gofrestru eich cwmni ar-lein. Unwaith i chi gofrestru, mae croeso i chi gofrestru eich swyddi presennol ac fe ddechreuwn ni chwilio am ymgeiswyr addas yn syth.

  Copyright © Prosperis Ltd 2007-2008 Designed by Asbri Ltd