hafan | amdanom ni | cysylltu â ni | faqs | telerau | preifatrwydd | map o'r wefan
 Cymraeg Saesneg
 
 
Gwasanaethau a Manteision
Cofrestru
Fy Nghyfrif
Ymholiadau
 
Gwasanaethau a Manteision
Cofrestru
Fy Nghyfrif
Chwilio Manwl
Rhestr o Swyddi Penodol
Neges am Swyddi
Anfon/Golygu fy CV
Ymholiadau
   
Polisi Preifatrwydd


Dyma ddisgrifiad o'r defnydd fyddwn ni'n ei wneud o'r wybodaeth fydd wedi ei gasglu gennym yn dilyn eich ymweliad â'n gwefan.

Mae dau gategori o wybodaeth allai fod yn cael ei roi ganddoch chi drwy ymweld â'n gwefan: gwybodaeth bersonol a gwybodaeth wedi ei gronni. Bydd prosperIS yn defnyddio'r wybodaeth bersonol (er enghraifft, eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost) sy'n cael ei drosglwyddo i'n safle drwy neges electronig neu fel arall i'r dibenion a fwriadwyd gennych chi. Nid yw gwybodaeth wedi ei gronni yn datgelu dim amdanoch a gallai, er enghraifft, gynnwys gwybodaeth ystadegol am y tudalennau ar ein gwefan a ddefnyddir amlaf gan ddefnyddwyr. Rydym yn casglu gwybodaeth wedi ei gronni ar gyfer gweinyddu'r systemau, i fesur nifer ymweliadau â'n gwefan, i wella perfformiad y wefan ac i'n helpu i wneud y wefan yn fwy defnyddiol. Ystyrir unrhyw wybodaeth neu ddeunydd arall anfonir gennych i'r safle fel deunydd heb fod yn gyfrinachol, er enghraifft cwestiynau, sylwadau ac yn y blaen.

Ni fydd prosperIS yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch drwy ein gwefan oni bai eich bod wedi ei gynnig i ni o'ch gwirfodd. Os nad ydych chi am i'ch gwybodaeth bersonol gael ei gasglu, yna peidiwch a'i anfon atom ni.

Mae gennym weithdrefnau rheoli diogelwch sydd wedi eu cynllunio i rwystro datgeliad anawdurdodedig o'ch gwybodaeth bersonol. Oherwydd natur y Rhyngrwyd, ni allwn roi sicrwydd ynglŷn â diogelwch eich gwybodaeth bersonol ac y mae prosperIS yn datgan yn un swydd ei ymwadiad rhag ymrwymiadau o'r fath.

 
  Copyright © Prosperis Ltd 2007-2008 Designed by Asbri Ltd